Enghraifft o'r canlynol | edition of the Commonwealth Games |
---|---|
Dechreuwyd | 15 Mawrth 2006 |
Daeth i ben | 26 Mawrth 2006 |
Lleoliad | Melbourne |
Yn cynnwys | badminton at the 2006 Commonwealth Games |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
18ed Gemau'r Gymanwlad | |||
---|---|---|---|
Campau | 17 | ||
Seremoni agoriadol | 15 Mawrth | ||
Seremoni cau | 26 Mawrth | ||
Agorwyd yn swyddogol gan | Iarll Wessex | ||
|
Gemau'r Gymanwlad 2006 oedd y deunawfed tro i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Melbourne, Awstralia oedd cartref y Gemau rhwng 15 - 26 Mawrth. Cafwyd cyfarfod i ddewis y ddinas fyddai'n cynnal y Gemau yn ystod Gemau'r Gymanwlad 1998 yn Kuala Lumpur ond nid oedd angen pleidlais wedi i Wellington, Seland Newydd dynnu'n ôl o'r ras gan adael Melbourne fel yr unig ymgeisydd.
Y tîm cartref oedd â'r tîm mwyaf gyda 535 o athletwyr a swyddogion a Montserrat oedd â'r tîm lleiaf wrth i'r ynys fechan yrru tri athletwr ac un swyddog a chyflwynwyd Pêl-fasged i'r Gemau am y tro cyntaf.